Once you reach 70, you must renew your driving licence every 3 years. If you’re 70 or over, or will be 70 in the next 3 months, you can easily renew your licence online.
Our online service is convenient, quick and secure. According to figures released last year, more than 60% of customers over the age of 70 chose to renew their licence online. So why not join them?
Here’s why you should renew online, and how to do it…
Renewing online is easier and quicker than paper – there’s no fiddling about with forms or postage. If you apply online, your licence should arrive within one week.
It’s also free! That’s right – there’s no charge to use our ‘Renew at 70’ service on GOV.UK. So avoid any third-party websites that charge premiums for DVLA services. These sites charge a fee to pass a driver’s application to DVLA, but they are not affiliated with DVLA and often charge for services which are cheaper or free on GOV.UK.
So always use GOV.UK to renew your licence – it’s the quickest, easiest and most secure way.
Our online service is available 24 hours a day, 365 days a year. Three months before your licence is due to expire, we’ll send you a reminder to renew. If you want to change your licence photo, you can do this at the same time as renewing your licence online, if you have a valid UK passport.
To renew online, you need:
Once you have everything you need, simply:
Once you’ve completed your application, you will receive an email to confirm it has been submitted. Make a note of your application reference number, which you can use to track the progress of your application online.
You may be able to continue driving while we process your application if you meet certain criteria. Read the guidance leaflet ‘Can I drive while my application is with DVLA?’ to check if you can continue driving.
Here are some comments from customers who’ve used the online service.
“Renewed my licence, 70+ in September 2020. It was so simple and quick. Recommend anyone to use the GOV.UK website to renew.”
“I applied online, everything worked like clock-work; extremely easy procedure.”
“The system was easy and friendly to use when I renewed at 73 years old.”
“No complications in completing the application, and the new licence arrived within a few days.”
So there you have it! If you need to renew your licence at 70, it’s quick, easy and secure to do it online. And free!
We have many online services available on GOV.UK. For the latest information about our services, sign up to our email alerts. You can also join our online research panel to help us improve our services.
Unwaith y byddwch yn 70 oed, rhaid ichi adnewyddu eich trwydded yrru bob 3 blynedd. Os ydych chi’n 70 oed neu’n hŷn, neu’n 70 oed yn ystod y 3 mis nesaf, gallwch chi adnewyddu’ch trwydded ar-lein yn hawdd.
Mae ein gwasanaeth ar-lein yn gyfleus, yn gyflym ac yn ddiogel. Yn ôl ffigyrau a ryddhawyd y llynedd, dewisodd mwy na 60% o gwsmeriaid dros 70 oed adnewyddu eu trwydded ar-lein. Felly beth am ymuno â nhw?
Dyma pam y dylech adnewyddu ar-lein, a sut i wneud hynny…
Mae adnewyddu ar-lein yn haws ac yn gyflymach na phapur – does dim angen trafferthu gyda ffurflenni na thâl post. Os gwnewch gais ar-lein, dylai eich trwydded gyrraedd o fewn wythnos.
Mae hefyd yn rhad ac am ddim! Mae hynny’n iawn – ni chodir tâl am ddefnyddio ein gwasanaeth ‘Adnewyddu yn 70’ ar GOV.UK. Felly osgowch unrhyw wefannau trydydd parti sy'n codi premiymau am wasanaethau DVLA. Mae’r gwefannau hyn yn codi ffi i drosglwyddo cais gyrrwr i’r DVLA, ond nid ydynt yn gysylltiedig â’r DVLA ac yn aml maent yn codi tâl am wasanaethau sy’n rhatach neu am ddim ar GOV.UK.
Felly defnyddiwch GOV.UK bob amser i adnewyddu eich trwydded – dyma’r ffordd gyflymaf, hawsaf a mwyaf diogel.
Mae ein gwasanaeth ar-lein ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Dri mis cyn y daw eich trwydded i ben, byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch i adnewyddu. Os ydych am newid y ffotograff ar eich trwydded, gallwch wneud hyn ar yr un pryd ag adnewyddu eich trwydded ar-lein, os oes gennych basbort y DU dilys.
I adnewyddu ar-lein, mae angen:
Unwaith y bydd gennych bopeth sydd ei angen arnoch, mae dim ond angen gwneud y canlynol:
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cais, byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau ei fod wedi'i gyflwyno. Gwnewch nodyn o gyfeirnod eich cais, y gallwch ei ddefnyddio i olrhain cynnydd eich cais ar-lein.
Efallai y byddwch yn gallu parhau i yrru tra byddwn yn prosesu eich cais os ydych yn bodloni meini prawf penodol. Darllenwch y daflen ganllaw ‘Gaf i yrru tra mae fy nghais gyda’r DVLA?’ i wirio a allwch barhau i yrru.
Dyma rai sylwadau gan gwsmeriaid sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth ar-lein.
“Fe wnes i adnewyddu fy nhrwydded, 70+ ym mis Medi 2020. Roedd mor syml a chyflym. Rwy’n argymell y dylai unrhyw un ddefnyddio gwefan GOV.UK i adnewyddu.”
“Fe wnes i gais ar-lein, roedd popeth yn gweithio fel clocwaith; gweithdrefn hynod o hawdd.”
“Roedd y system yn hawdd ac yn gyfeillgar i’w defnyddio pan adnewyddais yn 73 oed.”
“Dim cymhlethdodau wrth gwblhau’r cais, a chyrhaeddodd y drwydded newydd o fewn ychydig ddyddiau.”
Felly dyna chi! Os oes angen ichi adnewyddu eich trwydded yn 70 oed, mae'n gyflym, yn hawdd ac yn ddiogel i'w wneud ar-lein. Ac am ddim!
Mae gennym lawer o wasanaethau ar-lein ar gael ar GOV.UK. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwasanaethau, cofrestrwch i dderbyn ein rhybuddion e-bost. Gallwch hefyd ymuno â'n panel ymchwil ar-lein i'n helpu i wella ein gwasanaethau.